skip to main content

Clefyd y Lleng Filwyr

Beth yw Clefyd y Lleng Filwyr?

Math o niwmonia yw Clefyd y Lleng Filwyr. Gall unrhyw un ei ddal, ond mae’n fwy tebygol o effeithio ar bobl sy’n fregus oherwydd oedran, salwch, imiwnedd isel neu ysmygu ac ati. Cafwyd y rhan fwyaf o achosion ymhlith pobl rhwng 40 a 70 oed. Nid oes unrhyw dystiolaeth i ddangos bod y clefyd yn gyffwrdd-ymledol a dim ond 200 – 400 o achosion o glefyd y Lleng Filwyr sy’n cael eu hadrodd yn y DU bob blwyddyn.

Sut mae pobl yn ei gael?

Mae pobl yn dal clefyd y Lleng Filwyr drwy fewnanadlu defnynnau bach o ddŵr ynghrog yn yr aer, sy’n cynnwys y bacteria. Ni allwch gael clefyd y Lleng Filwyr o yfed dŵr. Mae’r risgiau’n cynyddu pan fydd y bacteria’n cael eu dal mewn defnynnau bach iawn fel chwistrelliad o gawod neu dapiau chwistrellu. Mewn cartrefi domestig, ystyrir bod risg clefyd y Lleng Filwyr yn isel oherwydd storio prin iawn a throsiant uchel o ddŵr. Gellir cadw hyn yn isel drwy ddilyn y canllawiau rhain.

Lleihau risg clefyd y lleng filwyr yn eich cartref

Mae’n siŵr y ceir y risg mwyaf pan fuoch oddi cartref fwy nag wythnos e.e. ar wyliau yn rhywle arall. Dyma rai pethau y gallwch eu gwneud

  • Rhedeg yr holl dapiau dŵr poeth ac oer (sy’n ffynhonnell annhebygol iawn beth bynnag) am o leiaf 120 eiliad.
  • Fflysio pen y gawod â dŵr cynnes am o leiaf 60 eiliad ar ôl iddi fod yn segur dros wythnos. (I wneud hyn, tynnwch y gawod o’r daliwr cyn ei throi ymlaen, wedyn daliwch hi i lawr dros y ddraen i leihau’r risg o fewnanadlu defnynnau sy’n cael eu chwistrellu).
  • Fflysio’r toiled ddwywaith i gylchredeg dŵr croyw drwy’r system a gwagio’r seston
  • Mae pennau chwistrell cawodydd hefyd yn cyflwyno ychydig bach o risg mewn cartrefi, a dylid eu datgysylltu a’u glanhau’n rheolaidd rhag calch a malurion (argymhellir gwneud hynny bob 3 mis).
  • Os oes gennych danc storio dŵr a’ch bod yn sylwi bod y caead ar goll neu wedi’i ddifrodi, gan ddatgelu’r dŵr sy’n cael ei storio i ddifwynwyr. Cysylltwch â Chartrefi Cymoedd Merthyr a rhowch wybod am hyn i’w atgyweirio.