Cyfrifoldebau atgyweirio
A chithau’n denant i Gartrefi Cymoedd Merthyr, bydd gennych nifer o gyfrifoldebau – mae’r rhain yn cynnwys atgyweiriadau.
Rydych yn gyfrifol am y canlynol:
- Rhoi gwybod inni ar unwaith am unrhyw ddiffygion neu atgyweiriadau rydym ni’n gyfrifol amdanynt
- Cadw toiledau a phibellau carthion yn rhydd rhag rhwystrau
- Awyru a gwresogi’r lle’n ddigonol er mwyn osgoi anwedd mewnol
- Esmwytho / iro drysau mewnol
- Atgyweirio mân graciau plastr mewnol
- Atgyweirio teils llawr, neu ailosod carpedi rhydd neu garpedi sydd wedi treulio
- Gwneud mân atgyweiriadau i unedau a droriau cegin
- Gosod gwydr newydd mewn ffenestri a drysau os yw’n torri
- Gosod ffiwsiau newydd
- Gofalu am erddi a chloddiau
Am restr lawn o’r atgyweiriadau rydych chi’n gyfrifol amdanynt, a’r pethau y byddwn ni’n eu gwneud, darllenwch ein PDF ‘Atgyweiriadau – Pwy sy’n Gyfrifol’.
Cofiwch, os byddwch chi, aelodau eraill o’r cartref neu’ch ymwelwyr yn gwneud difrod i’r eiddo, chi fydd yn gyfrifol am wneud y gwaith hwn eich hun neu ein talu ni i atgyweirio’r difrod.
I gael gwybod rhagor, cysylltwch â ni ar radffôn 0800 085 7843 neu 01685 727772.
Lawrlwythiadau
Cyfrifoldebau eraill
A chithau’n denant i Gartrefi Cymoedd Merthyr, bydd gennych amrywiaeth o gyfrifoldebau, sy’n cael eu hegluro’n llawn yn eich cytundeb tenantiaeth.
Rhagor o wybodaeth
Eich tenantiaeth – eich cyfrifoldebau