Mae eich llais yn bwysig i ni!
Mae’r adran hon yn dweud wrthych sut i fynegi’ch barn am lawer o bethau yn y sefydliad trwy’r corff democrataidd, y Bwrdd, ymweld ag ystadau a’r fforwm cyfathrebu. Rydym yn awyddus i glywed eich barn am wahanol feysydd a gyda’n gilydd helpu i wella’r gwasanaethau a gynigir gennym fel sefydliad tai.
Corff Democrataidd
Addewid: * * * * *
Y Corff Democrataidd yw’r corff etholedig sy’n cynrychioli aelodau a’r gymuned leol ac mae ganddo lais go iawn a dylanwad dros y penderfyniadau allweddol a wneir. Mae 11 o aelodau denantiaid, 8 aelod gweithwyr a 2 gynrychiolydd o Gyngor Bwrdeistref Sirol Merthyr Tudful. Mwy o wybodaeth am y Corff Democrataidd
Fforwm Cyfranogiad Preswylwyr
Addewid: * * * *
Mae’r Fforwm Cyfranogiad Preswylwyr yn sicrhau bod Cartrefi Cymoedd Merthyr yn sefydliad sy’n canolbwyntio ar y cwsmer. Mae gan y Fforwm trosolwg strategol o holl gyfleoedd cyfranogiad tenantiaid ac yn adrodd i’r Bwrdd.
Fforwm Gwella Eiddo
Addewid: * * * *
Mae’r Fforwm Ansawdd a Dylunio yn dylanwadu ar ein gwasanaeth gwella a gynlluniwyd a’n gwaith trwsio ymatebol
Panel Grantiau
Addewid: * * * *
Mae’r Panel Grantiau yn asesu ceisiadau gan unigolion a grwpiau cymunedol sy’n gwneud cais am gyllid oddi wrth ein cynlluniau Grant a Nawdd.
Fforwm Cyfathrebu
Addewid: * * *
Mae’r Fforwm Cyfathrebu yn gwirio’r wybodaeth a anfonwn allan i sicrhau ei fod yn glir, yn hawdd i’w ddeall ac yn canolbwyntio ar bynciau perthnasol.
Grŵp Ffocws Anabledd a Lles
Addewid: * * *
Mae’r Grŵp Ffocws Anabledd a Lles yn sicrhau bod tenantiaid yn ymwybodol o’r gwasanaethau sydd ar gael iddynt, o fewn Cartrefi Cymoedd Merthyr ac allan yn y gymuned ac maent yn nodi a mynd i’r afael â bylchau mewn darpariaeth gwasanaeth.
Cwsmer Cudd
Addewid: * * *
Chi yw’r bobl orau i roi gwybod i ni pa mor dda yr ydym yn darparu gwasanaethau. Profwch ein gwasanaethau rhowch adborth dienw ar ba mor dda yr ydym yn perfformio.
Arolygon a Grwpiau Ffocws
Addewid: * *
Eisiau dweud dy ddweud, ond does gennych lawer o amser i’w sbario? Yna gallai hyn fod yn gyfle i chi. Cofrestrwch eich diddordeb, yna pan ddaw rhywbeth i fyny, gallwch ddewis a dethol yr hyn sydd o ddiddordeb i chi.
Aelod
Addewid: *
Eisiau’r cyfle i bleidleisio yn ein Cyfarfod Aelodau Blynyddol neu gael llais yn y ffordd yr ydym yn gwneud busnes? Dewch yn aelod o Gartrefi Cymoedd Merthyr. Mwy am fod yn Aelod Denant.
Graddfa Ymrwymiad
Rydym wedi datblygu ffordd hawdd i ddangos faint o amser a’r dylanwad y byddwch yn ei gael ar yr amrywiol baneli. Mae’r radd yn cael ei gytuno gyda’r fforymau / paneli lle bynnag y bo’n bosibl.
1 * = isel (yn gysylltiedig unwaith y flwyddyn / lefel isel o ddylanwad)
5 ***** = uchel (cyfarfodydd unwaith y mis / lefel uchel o ddylanwad)
Am fwy o wybodaeth cysylltwch â’n Tîm Adfywio ar 01685 727816.