GWYBODAETH AM SUT RYDYN NI’N DEFNYDDIO CWCIS
Mae ein gwefan yn defnyddio cwcis i wahaniaethu rhyngoch chi a defnyddwyr eraill. Mae hyn yn ein helpu ni i roi profiad da i chi pan fyddwch yn pori drwy ein gwefan ac yn ein galluogi ni i wella ein gwefan. Drwy ddal ati i bori drwy’r wefan, rydych chi’n cytuno i ni ddefnyddio cwcis.
Ffeiliau bychan sy’n cynnwys llythrennau a rhifau yw cwcis. Rydyn ni’n eu storio ar eich porwr neu ar ddisg galed eich cyfrifiadur os ydych chi’n cytuno i hyn. Mae cwcis yn cynnwys gwybodaeth sy’n cael ei throsglwyddo i ddisg galed eich cyfrifiadur.
Rydyn ni’n defnyddio’r cwcis canlynol:
- Cwcis dadansoddi/perfformiad. Mae’r rhain yn caniatáu i ni adnabod ymwelwyr a’u cyfrif, yn ogystal â gweld sut mae ymwelwyr yn symud o gwmpas ein gwefan pan maen nhw’n ei defnyddio. Mae hyn yn ein helpu ni i wella sut mae’r wefan yn gweithio, er enghraifft, drwy sicrhau bod defnyddwyr yn dod o hyd i’r hyn maen nhw’n chwilio amdano’n hawdd.
- Cwcis sydd wir eu hangen. Rhain yw’r cwcis sydd eu hangen i redeg ein gwefan. Maen nhw’n cynnwys cwcis sy’n eich galluogi chi i fewngofnodi i fannau diogel ein gwefan, i ddefnyddio basged siopa neu i ddefnyddio gwasanaethau bilio ar-lein, er enghraifft.
- Cwcis swyddogaethol. Caiff y rhain eu defnyddio i’ch adnabod chi pan fyddwch chi’n dychwelyd i’n gwefan. Mae hyn yn ein galluogi ni i addasu’r cynnwys i fod yn bersonol i chi, i’ch cyfarch wrth eich enw ac i gofio’ch dewisiadau chi (er enghraifft, eich dewis iaith neu’ch ardal).
Mae rhagor o wybodaeth am y cwcis unigol rydyn ni’n eu defnyddio ac at ba ddibenion rydyn ni’n eu defnyddio yn y tabl isod.
Cwcis | Enw | Diben | Rhagor o wybodaeth |
Cwcis dadansoddi/ perfformiad | Google Analytics | Enghreifftiau o ddibenion cwcis:
Mae’r cwcis yma’n ein galluogi ni i: · amcangyfrif beth yw maint ein cynulleidfa a’i phatrwm defnyddio. · storio gwybodaeth am eich dewisiadau, ac felly’n ein galluogi ni i addasu’r safle ar eich cyfer chi a darparu cynigion sy’n seiliedig ar eich diddordebau personol. · eich adnabod chi pan fyddwch chi’n dychwelyd i’n gwefan ni. |
http://www.mvhomes.org.uk/cookies/
https://support.google.com/analytics/answer/6004245
|
Cwcis sydd wir eu hangen | ASP.NET_SESSION | Mae’r cwcis yma’n galluogi defnyddwyr i weld ffurflenni ar-lein ar y wefan a’u cyflwyno. | |
Cwcis sydd wir eu hangen | _ba_cookies_enabled | Mae’r cwcis yma’n galluogi’r defnyddwyr i gael mynediad at y wefan a’i defnyddio gyda chymorth lleferydd, darllen a chyfieithu. | |
Swyddogaeth | rwebooks | Storio dewisiadau | |
Swyddogaeth | qtrans_front_language | Caniatáu i chi osod dewis iaith | |
Swyddogaeth | WordPress | Caiff y cwcis yma eu defnyddio i storio dewisiadau mae defnyddwyr yn eu gosod, fel enw cyfrif, iaith a lleoliad. |
Cofiwch efallai y bydd trydydd partïon (gan gynnwys, er enghraifft, YouTube, rhwydweithiau hysbysebu a darparwyr gwasanaethau allanol fel gwasanaethau dadansoddi traffig) hefyd yn defnyddio cwcis, a does gennym ni ddim rheolaeth dros hynny. Mae’r cwcis yma’n debygol o fod yn rhai dadansoddi/perfformiad neu’n gwcis targedu.
Mae’n bosib i chi rwystro cwcis drwy roi’r gosodiad ar eich porwr ar waith sy’n gadael i chi wrthod gosod rhai cwcis neu bob cwci. Ewch i’r swyddogaeth ‘help’ yn eich porwr i gael cyfarwyddiadau ar sut mae gwneud hyn. Fodd bynnag, os ydych chi’n defnyddio’r gosodiadau ar eich porwr i rwystro pob cwci (gan gynnwys cwcis hanfodol) efallai na fyddwch chi’n gallu mynd i bob rhan neu i rannau o’n gwefan.
Ac eithrio cwcis hanfodol, bydd y rhan fwyaf o gwcis yn dod i ben ar ddiwedd eich sesiwn, neu o fewn dau fis i ddiwedd eich sesiwn.