Lesddeiliad
Beth yw lesddeiliad?
Pan fydd tenant yn prynu eu fflat neu fflat deulawr am y tro cyntaf, byddant yn ymrwymo i brydles am dymor o 125 o flynyddoedd am eu heiddo. Mae hyn oherwydd bod elfen rydd-ddaliad yr adeilad lle mae’r eiddo wedi ei leoli, a’r tir lle saif yr adeilad, yn eiddo i’r landlord sef Cartrefi Cymoedd Merthyr. Y lesddeiliad sy’ berchen ar yr eiddo o fewn yr adeilad.
Y Brydles
Y brydles yw’r ddogfen â grym cyfreithiol sy’n nodi cyfrifoldebau’r landlord a’r lesddaliwr, ac mae’n cynnwys gwybodaeth fel:
- Tymor y brydles, ei dyddiad dechrau a manylion y prynwr.
- Graddau’r eiddo a brynwyd
- Y gofyniad i dalu tâl gwasanaeth, a;
- Yr eitemau y gall y landlord ailgodi tâl amdanynt
- Y dull i’w ddefnyddio i gyfrifo’r tâl gwasanaeth a’r gofyniad i dalu am waith yn y dyfodol
Taliadau Gwasanaeth
Mae taliadau gwasanaeth prydles yn cael eu sefydlu gennym i adennill ein costau wrth gynnal a chadw a darparu gwasanaethau ac atgyweiriadau i’r bloc a’r ardal berthnasol lle rydych chi’n byw. Mae’ch prydles hefyd yn ein galluogi i gynnwys tâl am waith yn y dyfodol ac adnewyddu eitemau cyfalaf, lle mae’r arian a geir yn cael ei gadw ar wahân mewn cronfa ad-dalu.
Mae eich taliadau gwasanaeth yn cynnwys nifer o elfennau, fel;
– Rhent tir
Tâl blynyddol o £10 yw hwn, sy’n cael ei osod gan eich prydles a’i dalu i Gartrefi Cymoedd Merthyr sy’n berchen ar rydd-ddaliad y tir a’r bloc lle rydych yn byw. Mae’r tâl hwn yn cael ei dalu ar wahân i’r prif daliadau gwasanaeth.
– Y Prif Daliadau Gwasanaeth
Y prif gydrannau yn eich tâl gwasanaeth yw tâl am y canlynol;
- Gwaith cynnal a chadw ac atgyweirio i’r strwythur, y darnau cyffredin a’r tir a’r ffiniau perthnasol.
- Yswiriant bloc i gynnwys costau ailadeiladu a pheryglon wedi’u hyswirio fel difrod storm a thân.
- Gofalwr i lanhau’r rhannau cymunedol o’r adeilad.
- Darparu trydan cymunedol.
- Cost am gontractau gwasanaeth fel cynnal a chadw cyfarpar tân a lifftiau.
- Cyfraniadau at gronfa ad-dalu sy’n cael ei sefydlu i helpu lesddeiliaid i dalu tuag at waith yn y dyfodol fel gosod to newydd.
- Ffi reoli i dalu’r costau staff am ddelio â’r holl faterion prydles.
– Cronfa Ad-dalu
Mae’ch prydles yn ein galluogi i sefydlu cronfa ad-dalu, lle mae taliadau’n cael eu cynnwys am adnewyddu ac ailosod eitemau cyfalaf fel toeon newydd, ffenestri newydd, ailaddurno, adnewyddu lifftiau, adnewyddu erialau.
Mae’r arian a dalwch yn cael ei ychwanegu at eich cronfa bob blwyddyn, a chyfriflen yn cael ei hanfon atoch ymhen 2 fis cyntaf y flwyddyn ariannol newydd gan ddangos y penawdau canlynol:
- Faint a oedd gennych yn eich cronfa wedi’i ddwyn ymlaen o’r flwyddyn flaenorol.
- Faint rydym wedi’i godi am atgyweiriadau blynyddol a gwaith mawr.
- Faint rydych wedi’i dalu i mewn yn ystod y flwyddyn.
- Llog a ychwanegwyd.
- Gweddill eich cronfa ar ddiwedd y flwyddyn.
Gorchmynion am Dâl Gwasanaeth
Mae gorchmynion am y taliadau gwasanaeth blynyddol yn cael eu hanfon gan ein Hadran Gyllid tua dechrau mis Ebrill bob blwyddyn ariannol. Yna mae lesddeiliaid yn gallu cysylltu â ni a gwneud trefniant i ledu eu taliadau dros gyfnod hwy os mynnant.
Crynodeb o Hawliau a Chyfrifoldebau i Lesddeiliaid
I gydymffurfio â deddfwriaeth, rhaid inni gynnwys copi o ddogfen ‘Taliadau Gwasanaeth – Crynodeb o hawliau a chyfrifoldebau tenantiaid’ bob tro y byddwn yn gwneud gorchymyn am dâl gwasanaeth.
Cynnal a Chadw, Atgyweirio a Gwaith Mawr neu Waith wedi’i Gynllunio
Mae Cartrefi Cymoedd Merthyr yn gyfrifol am gynnal a chadw ac atgyweirio’r rhannau cyffredin o’r adeilad lle rydych yn byw ac ardaloedd allanol perthnasol. Mae gwaith yn cael ei wneud drwy gydol y flwyddyn i sicrhau bod pob rhan yn cael ei chynnal i safon uchel.
O bryd i’w gilydd, rhaid inni wneud gwaith i ailosod neu adnewyddu rhannau o’r adeilad fel toeon, ffenestri, prif ddrysau mynediad, a lifftiau, pan fyddant yn cyrraedd eu disgwyliad oes. Mae’r gwaith hwn fel arfer yn cael ei wneud yn ôl rhaglen waith i ardal neu ystâd.
Ymgynghoriad
Os bydd tâl i lesddeiliaid yn fwy na £100 am wasanaethau a ddarparwyd neu £250 am waith, rhaid i Gartrefi Cymoedd Merthyr ymgynghori’n ffurfiol â lesddeiliaid os ydym am adennill y tâl am y gwaith neu’r gwasanaethau. Enw’r broses ymgynghori yw ‘Ymgynghoriad Adran 20’, ac mae’r fformat yn amrywio yn ôl y math o waith a chontract dan sylw.
Os na fyddwn yn ymgynghori, ni allwn godi mwy na’r lleiafswm ac mae Polisi Adran 20 wedi’i lunio i roi gwybodaeth am y broses hon.
Safonau Gwasanaeth
Mae Cartrefi Cymoedd Merthyr wedi datblygu safonau gwasanaeth i egluro’r lefel o wasanaeth y gallwch ddisgwyl ei gael ac felly gallwch fonitro a ydym yn darparu’r lefel hon o wasanaeth.
Mae ein llyfryn ‘Safonau Gwasanaeth Tai’ yn cynnwys adran am lesddeiliaid.
Eiddo Masnachol
Mae Cartrefi Cymoedd Merthyr yn berchen ar 26 o unedau masnachol, a’r rheini ledled y fwrdeistref ac yn masnachu fel amrywiaeth o fusnesau
Cadwn restr aros o fuddgyfranogwyr rhag ofn y daw uned yn wag yn y pen draw. Os hoffech gael eich ychwanegu at y rhestr neu os oes gennych unrhyw ymholiadau am yr unedau masnachol, cysylltwch â ni ar 0800 085 7843 neu 01685 727772
Garejis (Rhent Tir)
Mae Cartrefi Cymoedd Merthyr yn rheoli tenantiaethau 223 o leiniau garej, lle mae’r llain yn eiddo i Gartrefi Cymoedd Merthyr ac yn cael ei darparu ganddynt er mwyn i’r tenant godi ei garej ei hun a thalu rhent tir inni, rydd-ddeiliad y tir.
Mae tenantiaid yn gwerthu neu’n trosglwyddo eu garej i berchennog newydd ond rhaid rhoi gwybod i Gartrefi Cymoedd Merthyr am eu bwriad.
Ymholiadau am Dir
Os oes gennych unrhyw ymholiadau am berchenogaeth ar dir, ffiniau, neu os hoffech brynu darn o dir ger eich eiddo chi, cysylltwch â ni ar 0800 085 7843 neu 01685 727772.
Y dudalen hon
I’ch helpu chi allan, dyma restr o’r hyn sydd ar y dudalen hon:
Y Brydles
Taliadau Gwasanaeth
Gorchmynion am Dâl Gwasanaeth
Crynodeb o Hawliau a Chyfrifoldebau i Lesddeiliaid
Cynnal a Chadw, Atgyweirio a Gwaith Mawr neu Waith wedi’i Gynllunio
Ymgynghoriad
Safonau Gwasanaeth
Eiddo Masnachol
Garejis (Rhent Tir)
Ymholiadau am Dir