Paneli Solar
Er nad ydym yn gosod Paneli Solar ar gartrefi ar hyn o bryd, rydym yn awyddus i osod mwy yn y dyfodol. Felly, os ydych yn hoff o’r syniad ac os hoffech ddangos diddordeb mewn unrhyw waith uwchraddio ynni adnewyddadwy, neu’r holl waith hwnnw, cysylltwch â ni.
Byddwn yn ystyried addasrwydd eich eiddo, ond cofiwch na fydd pob eiddo’n addas oherwydd safle Merthyr Tudful yn y cwm.
Gwahanol fathau o Baneli Solar
Paneli Thermol Solar
Yn syml, mae paneli solar yn cael eu gosod yn ddelfrydol ar do sy’n wynebu’r de a hynny ar ogwydd o 35’. Mae’r paneli’n casglu pelydriad yr haul wedyn ac yn trosglwyddo’r gwres i ddolen gaeedig sy’n gysylltiedig â storfa dŵr poeth. Oddi yma mae’r dŵr poeth a gasglwyd o’r haul yn mynd i’ch tapiau drwy’ch system bresennol. Bydd hyn yn helpu:
- Dŵr poeth drwy gydol y flwyddyn: mae’r system yn gweithio drwy gydol y flwyddyn, ond bydd angen ichi wresogi’r dŵr ymhellach yn ystod y gaeaf â boeler neu wresogydd troch.
- Cwtogi ar eich biliau: mae heulwen yn rhad ac am ddim, felly bydd ynni a gynhyrchir yn lleihau costau.
- Torri’ch ôl troed carbon: mae dŵr poeth solar yn system wresogi adnewyddadwy, werdd a gall leihau eich allyriadau carbon deuocsid.
Systemau Ffotofoltäig
Mae trydan yn cael ei gynhyrchu o heulwen drwy broses ffotofoltäig solar. Mae paneli ffotofoltäig yn cael eu gwneud o ddeunyddiau lled-ddargludo, felly pan fydd yr heulwen yn taro, caiff ei throi’n drydan. Dyma’r manteision:
- Gallwch gael eich talu am y trydan a gynhyrchwch: mae Tariffau Cyflenwi Trydan y llywodraeth yn eich talu am y trydan a gynhyrchwch, hyd yn oed os byddwch yn ei ddefnyddio.
- Gallwch werthu’r trydan yn ôl i’r grid: os yw’ch system yn cynhyrchu mwy o drydan nag sydd ei angen arnoch, neu os na allwch ei ddefnyddio, gallwch werthu’r trydan dros ben yn ôl i’r grid.
- Gallwch dorri’ch ôl troed carbon: mae trydan solar yn ynni adnewyddadwy, gwyrdd ac nid yw’n rhyddhau unrhyw garbon deuocsid niweidiol na llygryddion eraill. Gallai system ffotofoltäig solar nodweddiadol i’r cartref arbed dros dunnell o garbon deuocsid y flwyddyn – dyna fwy na 30 o dunelli yn ystod ei hoes.