Rhent a thaliadau eraill
I fyw yn un o’n cartrefi, bydd angen i chi dalu rhent. Mae’n bwysig i chi wneud hyn am ei fod ymhlith yr amodau tenantiaeth, ac mae’r arian hwn yn cael ei ddefnyddio i ddarparu gwasanaethau, fel atgyweiriadau i’ch cartref. Talwch eich rhent ar-lein yma.
Pryd i dalu rhent
Rydym yn codi rhent wythnosol. Rhaid talu hwn bob dydd Llun am yr wythnos i ddod.
Cynigiwn ichi dalu bob wythnos, bob pythefnos, bob 4 wythnos neu bob mis, a hynny am yr wythnos, y bythefnos, y 4 wythnos neu’r mis sydd i ddod.
Pwysig: Os ydych yn talu drwy ddebyd uniongyrchol, gallwch dalu unrhyw ddiwrnod o’r wythnos.
Cyfriflenni rhent
Byddwn yn anfon copi o’ch cyfrif rhent bob chwarter; mae hwn yn nodi’r rhent a godwn arnoch a’r taliadau a wnaethoch. Os ydych yn cael Budd-dal Tai, dylech fod yn ymwybodol mai bob pedair wythnos y byddwn yn cael hwn, felly mae’n bosibl y bydd y gweddill ar eich cyfriflen yn dangos ôl-ddyled am yr wythnosau rhwng y taliadau hyn gan Gyngor Bwrdeistref Sirol Merthyr Tudful.
Budd-dal Tai
Os oes gennych incwm isel, efallai gallwch hawlio Budd-dal Tai i’ch helpu gyda’ch costau tai. I gael gwybod rhagor am wneud cais, neu i weld a allech chi hawlio cymorth, trowch at wefan Cyngor Bwrdeistref Sirol Merthyr Tudful. Mae yno ‘Gyfrifiannell Budd-daliadau’ er mwyn cyfrifo a allwch hawlio’r Budd-dal Tai a Budd-dal y Dreth Gyngor.
Os na fyddwch yn talu eich rhent, byddwch yn torri eich cytundeb tenantiaeth.
Byddwn bob amser yn cymryd camau os na fyddwch yn talu eich rhent.
Mae’n bosibl y gallwch golli’ch cartref os na fyddwch yn gwneud trefniadau i dalu’ch rhent yn llawn pan fydd yn ddyledus.
Lawrlwythiadau
Dolenni perthnasol
Cyfrifiannell Budd-dal Tai
Cyngor Bwrdeistref Sirol Merthyr Tudful
Cyllidebu a Rheoli Arian
Gwasanaeth Cyngor Ariannol
Ydych chi wedi ystyried….
Trafferth talu eich rhent?
Rydym yn deall y gall hwn fod yn amser gofidus iawn ac rydym yma i helpu. Cynigiwn amrywiaeth o wahanol gymorth, cefnogaeth a chyngor, a’r cyfan yn gyfrinachol.
Gwerthfawrogwn ei bod yn gallu bod yn anodd dod atom ni, ond rydym yn benderfynol o helpu i ddod o hyd i ateb a rhoi cymorth i chi.
Peidiwch â chael eich temtio i fenthyca gan Fenthyciwr Arian Didrwydded na neb arall heb enw da – holwch am gyngor.
Cysylltwch â ni
T: 01685 727772 neu 0800 085 7843
E: info@mvhomes.org.uk