Wrth dalu eich anfoneb, dyfynnwch eich Cod Cyfrif Cwsmer (sy’n dechrau â ‘D’) a’ch rhif Anfoneb.
Talu dros y ffôn â cherdyn debyd neu gredyd
Gallwch wneud taliad dros y ffôn gan ddefnyddio’ch cerdyn debyd neu gredyd yn ystod oriau swyddfa. Ffoniwch yr Adran Gyllid ar 01685 727795.
Ein horiau agor ar gyfer ffonio yw:
Dydd Llun – Dydd Iau: 8:30am – 17:00pm
Dydd Gwener: 8:30am – 16:30pm
Talu drwy’r post â siec neu archeb bost
Anfonwch sieciau neu archebion post yn daladwy i “Cartrefi Cymoedd Merthyr” yn unig i’r cyfeiriad canlynol: Cartrefi Cymoedd Merthyr Cyf., yr Adran Gyllid, Tŷ Martin Evans, Riverside Court, Avenue de Clichy, Abermorlais, Merthyr Tudful, CF47 8LD. Nodwch eich Cod Cyfrif Cwsmer a’ch Rhif Anfoneb ar gefn y siec os gwelwch yn dda.
Talu ar-lein â cherdyn debyd neu gredyd
O 16 Medi 2013 ymlaen, byddwch yn gallu talu’ch anfoneb ar-lein â cherdyn debyd neu gredyd. Dilynwch y ddolen ar ein gwefan yn www.mvhomes.org.uk a dilynwch y cyfarwyddiadau ar y sgrin.
Talu yn Swyddfa’r Post neu Paypoint â Cherdyn Talu
Mae cardiau talu ar gael os gofynnwch amdanynt; cysylltwch â ni ar 01685 727795 os hoffech gael cerdyn wedi’i anfon allan yn y post. Mae modd defnyddio’r Cardiau Talu hyn mewn unrhyw Swyddfa Bost neu ganolfan Paypoint. Nid oes tâl am ddefnyddio’r gwasanaeth hwn.
O 1 Medi 2013, sylwch na fyddwch yn gallu talu’ch anfoneb i Gartrefi Cymoedd Merthyr yn swyddfa arian Cyngor Merthyr Tudful rhagor.
Hawl i Apelio
Os byddwch yn gwadu anfoneb o ran atgyweiriadau y gellir ailgodi tâl amdanynt, mae gennych yr hawl i apelio. Os hoffech gyflwyno apêl, ysgrifennwch lythyr (wedi’i gyfeirio at y Pennaeth Tai) yn gofyn am apêl cyn pen 5 diwrnod gwaith o gael yr anfoneb. Yn y llythyr, dyfynnwch eich rhif anfoneb a’r rheswm pam rydych yn gwadu’r tâl. Bydd eich apêl yn cael ei hystyried wedyn a byddwch yn cael ymateb ysgrifenedig