Byddwn yn ehangu'r ystod o ddulliau talu, a hyfforddi'n staff i roi cyngor ar reoli dyledion. Dim ond yn unol â chanllawiau Llywodraeth y Cynulliad y byddwn ni'n codi rhenti bob blwyddyn, a byddwn yn symud tuag at renti meincnod.
Rhaglen gwelliannau
Byddwn yn cyflawni rhaglen o atgyweiriadau a moderneiddio dros 30 o flynyddoedd, fydd yn costio £357.6 miliwn. Yn ystod y pum mlynedd gyntaf, byddwn yn gwario £69.5 miliwn fel rhan o'n haddewidion i'n tenantiaid.
Bydd ein gwasanaeth atgyweiriadau yn gyflymach, a byddwn yn cynllunio rhaglen o waith cynnal a chadw i gynnal safon ein tai. Byddwn yn cynnwys tenantiaid wrth adolygu'r gwasanaeth trwy ein
Fforwm Ansawdd a Dyluniad (FfAD).
Adfywio
Byddwn yn buddsoddi £4.4 miliwn ar welliannau amgylcheddol o fewn y cymunedau lleol, a byddwn yn ymgynghori ar sut gaiff yr arian ei wario. Byddwn yn cydweithio'n agos â phartneriaid eraill i sicrhau gwerth gorau am arian, a byddwn yn cyfuno'n hadnoddau yn hytrach na chystadlu. Byddwn yn sefydlu prentisiaethau, cynlluniau hyfforddi i fyfyrwyr, a lleoliadau i fyfyrwyr; a byddwn yn cynnig cyfleoedd cyflogaeth i bobl leol.
Byddwn yn diogelu hawliau allweddol ein tenantiaid o dan y trosglwyddiad trwy lunio cytundeb tenantiaeth newydd.
Ymddygiad gwrthgymdeithasol
Bydd gyda ni bolisïau clir i ddelio ag ymddygiad gwrthgymdeithasol, a rhoddwn y flaenoriaeth uchaf i achosion o niwsans difrifol. Byddwn yn cymryd camau ychwanegol i atal troseddu mewn ymgynghoriad â'n tenantiaid.
Byddwn yn gwella diogeledd ar gyfer tai gwarchod, a chyflwyno cynlluniau cymorth ar gyfer pobl hŷn.
Cymhorthion ac Addasiadau
Byddwn yn gosod cyllideb newydd o £100,000 y flwyddyn ar gyfer addasiadau i helpu'n tenantiaid i aros yn eu cartrefi'n hirach.
Byddwn yn cynnig ystod o ffyrdd y gall tenantiaid chwarae rhan yn y broses o ddarparu a monitro'r gwasanaeth. Byddwn yn rhoi adborth effeithiol am y gwahaniaethau sy'n tarddu o'r fath fewnbwn.
Anghenion buddsoddi
Bydd Cartrefi Cymoedd Merthyr yn sicrhau fod pob tŷ yn cyrraedd
Safon Ansawdd Tai Cymruerbyn 2015. Bydd y Safon yn sicrhau fod tenantiaid yn byw mewn cartrefi sydd:
- Mewn cyflwr da
- Yn saff ac yn ddiogel
- Â gwres digonol, yn effeithlon o ran defnydd ynni, ac wedi'u hinswleiddio'n dda
- Â cheginau ac ystafelloedd ymolchi cyfoes
- Wedi'u rheoli'n dda (yn achos tai wedi'u rhentu)
- Wedi'u lleoli mewn awyrgylch deniadol a diogel
- Yn gweddu ag anghenion penodol y teulu, cyn belled â phosib.
Ond nid dyna'r cyfan. Byddwn hefyd yn darparu mwy o gyfleoedd gwaith, a gwell cyfleoedd bywyd i bobl leol. Fe wnawn ni hyn trwy:
- Gynnig prentisiaethau
- Hyfforddi a recriwtio staff i amrywiaethu'r gwaith a wneir gan y Tîm Gwasanaethau Eiddo
- Greu cymunedau sy'n denu buddsoddiad preifat newydd.
Er mwyn sicrhau fod ein cymunedau'n dod yn llefydd y mae pobl yn falch o fyw ynddyn nhw, byddwn yn gwrando ar ddyheadau'n tenantiaid, a chlywed beth sydd angen ei newid, yn eu barn nhw. Rydym hefyd yn gweithio mewn partneriaeth gyda chyrff lleol, megis yr heddlu a'r cyngor, er mwyn bod mor effeithiol â phosib.